Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (9) v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 (15 munud) NDM4745 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod fersiwn drafft Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2011. Dogfennau
Ategol
|
4. Dadl ar Wasanaethau Cymdeithasol (60 munud) NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru; ac 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion. Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu:
http://cymru.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/guidance1/services/?lang=cy Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu’r geiriau ‘parhau i fodloni’ a rhoi ‘bodloni’ yn eu lle. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu pwynt 2. Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod manteision defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle bo hynny’n briodol. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’n gyflym y defnydd o Gyllidebau Personol ar gyfer gwasanaethau gofal.
|
5. Dadl ar yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen (60 munud) NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi'r ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru. 2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen. Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru:
http://cymru.gov.uk/topics/educationandskills/publications/wagreviews/educationservicesreview/?lang=cy Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: ‘gyda’r nod yn benodol o sicrhau bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig’ Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad addysgol Cymru. |
Cyfnod pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud) NDM4744 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Colli’r ffordd wrth bontio
|
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011